Charlotte Church
Mae’r gantores Charlotte Church wedi dweud ei bod hi wedi cael dewis o dderbyn tâl o £100,000 i ganu ym mhriodas Rupert Murdoch pan oedd hi’n 13 oed, neu  cael cyhoeddusrwydd ffafriol yn ei bapurau newydd.

Wrth roi tystiolaeth i’r ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw, dywedodd Charlotte Church ei bod hi wedi cael gwahoddiad i ganu ym mhriodas Rupert Murdoch i Wendi Deng yn Efrog Newydd ym 1999.

Mewn datganiad i Ymchwiliad Leveson, dywedodd ei bod hi wedi cael cynnig tâl o £100,000 neu yr amod y “byddai’n cael sylw ffafriol ym mhapurau Mr Murdoch,” petae hi ddim yn derbyn yr arian.

Fe glywodd yr ymchwiliad bod News International wedi gwadu gwneud y cynnig i Charlotte Church ond dywedodd y gantores bod hi a’i mam yn eithaf penderfynol eu bod nhw eisiau cymryd y tâl ar y pryd, ond bod y cwmni recordio a’u rheolwyr wedi eu hannog i dderbyn y ffafr gan “ddyn pwerus” fel Rupert Murdoch.