Mae prifysgolion wedi gweld gostyngiad mawr yn nifer y myfyrwyr sy’n ceisio am le, gyda gostyngiad o 12.9% yn nifer y ceisiadau, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Mae ceisiadau gan fyfyrwyr o’r DU wedi gostwng 15.1%, yn ôl ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi gan Ucas.
Ond tra bod llai o fyfyrwyr o’r DU yn gwneud cais i fynd i’r brifysgol, mae nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr o dramor, tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, wedi cynyddu 11.8%.
Mae cyfanswm o 23,427 yn llai o bobl wedi gwneud cais am gyrsiau gradd mewn prifysgolion yn y DU yn 2012 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd Ucas ei bod yn rhy gynnar i ddarogan beth fyddai’r galw am addysg uwch y flwyddyn nesaf.
Mae gan fyfyrwyr hyd at Ionawr 15 i wneud cais am gyrsiau sy’n dechrau yn yr hydref.
Mae’r ffigyrau’n dangos bod 133,357 o fyfyrwyr yn y DU wedi gwneud cais hyd yn hyn.
Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ei bod hi’n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddod i unrhyw gasgliadau am nifer y ceisiadau, ond bod newidiadau’r Llywodraeth i addysg uwch yn amlwg yn cael effaith ar benderfyniadau myfyrwyr. Mae disgwyl i ffioedd dreblu i hyd at £9,000 yn 2012.
Dywedodd llywydd yr NUS, Liam Burns: “Mae’n rhaid i weinidogion gymryd cyfrifoldeb am eu diwygiadau addysg trychinebus a chyfaddef bod penderfyniadau myfyrwyr yn mynd i gael eu heffeithio gan y codiad aruthrol mewn ffioedd.”
Ychwanegodd bod gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr hŷn yn achos pryder a bod yn rhaid i’r Llywodraeth ymateb ar frys.