Roedd syched yn gyfrifol, neu rannol gyfrifol, am farwolaethau 667 o bobol mewn cartrefi gofal yn ystod y pum mlynedd diweddaraf yn ôl ffigurau swyddogol.

• Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod 157 o bensiynwyr wedi marw o ddiffyg maeth yn ystod yr un cyfnod gyda bron i 2,000 wedi marw o’r heintiau clostridium difficile a MRSA.

• Bu farw 1,146 o henoed gyda dolur gwely tra bod 4,866 wedi marw gyda gwenwyn gwaed. Roedd 4,881 wedi marw ar ôl disgyn yn y cartrefi gofal.

• Yn ôl y ffigurau roedd nifer y marwolaethau oherwydd syched wedi dyblu tra bod y rhai hynny a fu farw o heintiau wedi cynyddu saith gwaith yn ystod cyfnod y Llywodraeth Llafur.

Fe ddaw’r ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ôl dadansoddi tystysgrifau marwolaeth preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr rhwng 2005 a 2009.

Mae cyfanswm yr ystadegau’n cynnwys achosion sylfaenol y marwolaethau yn ogystal â ffactorau a gyfrannodd.

Ond mae yna bryderon bod y ffigurau gwirioneddol yn uwch eto am nad yw’r henoed sy’n marw mewn ysbytai yn hytrach na chartrefi gofal ddim yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau.

Sioc

Mae Neil Duncan-Jordan o’r Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol yn dweud ei fod yn sioc i weld bod pobl yn marw o’r math yma o achosion 21eg ganrif.

“Mae’r ffigurau’n dangos nad yw nifer sylweddol o henoed mewn cartrefi gofal ddim yn cael y sylw angenrheidiol. Ond mae’r gost o aros mewn cartrefi gofal yn enfawr- £600-£800 yr wythnos ar gyfartaledd,” meddai Neil Duncan-Jordan.

“Er gwaethaf hynny, does neb yna i’w helpu i fwyta ac yfed digon nac i sicrhau eu bod nhw’n cael eu troi yn y gwely”

“Mae’n warthus eu bod nhw’n cael eu trin yn y fath ffordd ac r’yn ni i gyd am wasanaeth o safon uwch am £800 yr wythnos.”

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod mwy nag 20,000 o bobol yn gorfod gwerthu eu cartrefi bob blwyddyn er mwyn gallu talu i aros mewn cartrefi gofal.