Mae’r cyfarwyddwr ffilm Ken Russell wedi marw yn 84 oed.

Dywedodd mab y cyfarwyddwr, Alex, bod ei dad wedi marw yn yr ysbyty ddydd Sul.

Fe ddechreuodd gyrfa Russell yn myd teledu cyn iddo droi ei sylw at ffilmiau. Roedd yn enwog am ei ffilmiau dadleuol fel The Devils a Women in Love.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd y cyfarwyddwr ffilm Michael Winner bod Russell wedi gwneud cyfraniad “unigryw” i’r byd ffilm ym Mhrydain.

Mae’n debyg bod Ken Russell wedi bod yn wael iawn ers peth amser.