Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Mae’r Llywodraeth am warantu gwerth biliynau o bunnau o fenthyciadau gan fanciau i fusnesau er mwyn ceisio’i gwneud hi’n haws i gwmnïau bach gael credyd.

Bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi manylion y cynllun yn ei ddatganiad ar yr economi ddydd Mawrth.

Mae disgwyl y gall y cynllun ryddhau dros £40 biliwn i fusnesau dros y ddwy flynedd nesaf, wrth i’r Llywodraeth fynd yn fwyfwy pryderus am gyflwr yr economi.

Bydd y Llywodraeth yn gwarantu benthyciadau’r banciau ar y marchnadoedd arian, a fydd yn eu galluogi nhw i fenthyca’n rhatach. Fe fydd y banciau wedyn yn cynnig benthyciadau ar logau is i fusnesau bach a chanolig.

Mae gweinidogion yn gobeithio y bydd y cynllun ar waith erbyn dechrau’r flwyddyn.

 “Fe wyddon ni i gyd bod cost cost cyllid i fusnesau llai wedi codi yn sgil yr argyfwng ariannol,” meddai ffynhonnell o’r Trysorlys. “Mae’n broblem y mae pobl wedi bod yn ceisio’i datrys ers 2008, a dyna pam fod y cynllun newydd yn llawer mwy radical na dim byd sydd wedi bod o’r blaen. Fe ddylai weddnewid y sefyllfa i gwmnïau bach trwy dorri cost cyllid.”