Mae miloedd o uwch-swyddogion sydd wedi ymddeol o’r sector cyhoeddus yn derbyn pensiynau o dros £50,000 y flwyddyn.

Mae 148 ohonyn nhw’n derbyn mwy na £100,000 y flwyddyn, yn ôl gwybodaeth a gafodd mudiad sy’n ymgyrchu am bensiynau tecach o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywed y mudiad Intergenerational Foundation ei fod yn gwrthwynebu’r ffordd y mae pensiynau cyn-uwch swyddogion yn cael eu talu gan eu cydweithwyr iau.

Meddai Angus Hanton, un o gyd-sylfaenwyr yr Intergenerational Foundation: “Mae aelodau iau o undebau’n cael eu hannog i warchod pensiynau llawer iawn mwy hael nag y byddan nhw’u hunain yn eu cael.

“Mae gan undebau gyfrifoldeb i sicrhau eu bod nhw’n gwarchod buddiannau’r holl aelodau.”

O’r cyfanswm o 12,082 o weithwyr sector cyhoeddus wedi ymddeol sy’n derbyn pensiwn o dros £50,000 y flwyddyn, meddygon yw 72 y cant ohonyn nhw.

Mae’r mudiad, a sefydlwyd ‘i hyrwyddo tegwch rhwng cenedlaethau a’i gilydd’ yn galw am gronfa newydd o bensiynau sector cyhoeddus wedi ei hariannu i warchod hawliau gweithwyr.