Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson (o'i wefan)
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon wedi galw ar Gatholigion a Phrotestaniaid i weithio gyda’i gilydd i ddiweddu rhaniadau sectyddol yn y dalaith.

Wrth annerch cannoedd o aelodau ei blaid yng nghynhadledd flynyddol yr Unoliaethwyr Democrataidd ym Melffast y bore yma, dywedodd Peter Robinson fod angen newid agwedd llwyr.

“Mae gwrthdaro’r 40 mlynedd ddiwethaf wedi creu rhaniadau dychrynllyd,” meddai. “Mae wedi dod yn fater o ‘ni a nhw’. Ac mae’r agwedd honno wedi dyfnhau’r rhaniadau ymhellach.

“Os oes arnon ni eisiau cymdeithas well, allwn ni ddim cael ‘ni a nhw’. Rhaid iddi fod yn ‘bawb ohonon ni’.

“Does arna i ddim eisiau cymdeithas lle mae pobl yn byw’n agos at ei gilydd, ond yn byw bywydau ar wahân.”

Dywedodd hefyd mai’r ffordd orau i sicrhau dyfodol yr undod gwleidyddol â Phrydain oedd trwy ennill cefnogaeth mwy o Gatholigion, a chyhoeddodd gynlluniau i geisio denu aelodau o gefndir cenedlaetholgar i rengoedd ei blaid.