(o wefan y PA)
Merched Prydain yw’r rhai tewaf yn Ewrop.

Yn ôl ystadegau gan y Comisiwn Ewropeaidd, roedd bron i chwarter merched y Deyrnas Unedig yn ordew yn 2008/09.

Mae dynion Prydain hefyd ymhlith rhai tewaf y cyfandir – dim ond Malta sydd â chyfran uwch na’r 22 y cant o ddynion gordew ym Mhrydain.

Mae lefelau uchel gordewdra Prydain yn cyferbynnu â gwledydd fel Romania lle nad yw ond 8 y cant o ferched a 7.6 y cant o ddynion yn cael eu diffinio fel rhai gordew.

Caiff gordewdra ei ddiffinio yn ôl fformiwla sy’n cymharu pwysau unigolyn â’i daldra – sef mynegai más y corff (BMI). Os yw’r BMI yn 30 neu fwy, yna mae’r person yn ordew.