George Osborne
Mae cynlluniau arbedion George Osborne wedi cael hwb heddiw, wedi iddi ddod i’r amlwg fod benthyciadau wedi gostwng mwy na’r disgwyl ym mis Hydref.

Disgynnodd benthyciadau’r sector cyhoeddus, gan eithrio benthyciadau ariannol i arbed banciau, i £6.5 biliwn – sydd £1.2 biliwn yn is na’r flwyddyn flaenorol, ac yn is na disgwyliadau Dinas Llundain o £6.8 biliwn.

Daw’r ffigyrau wythnos yn unig cyn i’r Canghellor wneud datganiad yr Hydref, lle mae disgwyl iddo gyhoeddi pecyn newydd o fesurau i helpu hybu economi’r Deyrnas Unedig, yn sgil beirniadaeth fod ei strategaeth o doridau wedi mygu’r adferiad economaidd.

Ar yr un diwrnod, mae disgwyl i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddiweddaru eu rhagolygon ar fenthyciadau’r Llywodraeth, gyda nifer o economyddion yn disgwyl i’r Swyddfa gyfaddef na fydd George Osborne yn gallu cael gwared ar y diffyg ariannol erbyn 2014/15 fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

Mae’r ffigyrau heddiw yn golygu bod benthyciadau’r Llywodraeth yn y flwyddyn ers Ebrill diwethaf nawr yn £68.3 biliwn.

Ond mae pryderon cynyddol fod cyflwr gwael yr economi yn mynd i danseilio cynlluniau i leihau’r diffyg ariannol, wrth gynyddu cost taliadau lles y Llywodraeth a gostwng yr incwm dreth.

Cyfaddefodd y Prif Weinidog David Cameron ddoe fod rheoli dyledion Prydain yn profi’n “anoddach nag y gallai neb fod wedi ei ragweld.”