Castell Caernarfon
Mae Cymru yn agos at frig y  rhestr o lefydd y mae trigolion Ynysoedd Prydain yn hoffi mynd ar eu gwyliau, yn ôl arolwg newydd.

Roedd Cymru yn y pumed safle, y tu ôl i Gernyw, yr Alban, Ardal y Llynnoedd, a Llundain.

Mae disgwyl i’r ardaloedd rheini ddenu rhagor o dwristiaid dros y flwyddyn nesaf. Mae 91% o drigolion Prydain bellach yn bwriadu mynd ar eu gwyliau o fewn y Deyrnas Unedig yn 2012.

Mae hynny’n gynnydd o 23% ar nifer y arhosodd ym Mhrydain am eu gwyliau eleni, yn ôl yr arolwg a gomisiynwyd gan y cwmni rhentu bythynnod cottages4you.

Dywedodd 39% o’r rheini eu bod nhw wedi penderfynu mynd ar eu gwyliau o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn arbed arian.

Roedd 10% yn ofni y byddwn nhw’n cael eu hatal rhag teithio adref oherwydd gweithwyr yn streicio dramor.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r rheini gymerodd rhan yn yr arolwg eu bod nhw eisiau ymweld gyda threfi hanesyddol sy’n cynnwys olion Rhufeinig neu gestyll, yn ogystal â mwynhau cefn gwlad.

“Mae yna gynnydd mawr wedi bod yn y ‘staycation’ dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n debygol o barhau am gyfnod eto,” meddai Nick Rudge o cottages4you

“Mae gennym ni dirwedd hyfryd ar ein stepen drws fan hyn ac mae sawl un wedi cael blas ar fynd ar wyliau gartref.”