Michael Heseltine
Mae’r Arglwydd Heseltine wedi dweud y byddai yn gamgymeriad i Lywodraeth San Steffan ei gwneud hi’n haws i gwmnïau ddiswyddo gweithwyr.
Fe fyddai newid y gyfraith o blaid busnesau yn colli pleidleisiau i’r Ceidwadwyr, meddai.
Dywedodd cyn ysgrifennydd diwydiant a masnach y blaid fod ymdrechion i dorri biwrocratiaeth yn aml yn methu.
Daw ei sylwadau ar raglen y Politics Show ar ôl i adroddiad gan Adrian Beecroft, un o noddwyr y Blaid Geidwadol, awgrymu y byddai ei gwneud hi’n haws diswyddo gweithwyr yn arwain at ragor o dwf economaidd.
Mae gweinidogion wedi dweud na fydden nhw o reidrwydd yn dilyn argymhellion yr adroddiad, ond eu bod nhw yn bwriadu cyflwyno newidiadau i’r gyfraith ar gyflogi gweithwyr.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, y bydd y diwygiadau yn ei gwneud hi’n haws i gwmnïau gyfogi gweithwyr newydd.
Ond dywedodd yr Arglwydd Heseltine fod angen i weinidogion “gymryd gofal” cyn dechrau ymyrryd â’r gyfraith ar gyflogaeth.
“Mae’n bwysig mewn gwleidyddiaeth nad ydych chi’n cael enw drwg am wneud bywyd yn anoddach i’r bobol a fydd yn y pen draw yn pleidleisio mewn etholiadau,” meddai.
“Roeddwn i wedi ceisio torri biwrocratiaeth yn ystod fy nghyfnod mewn llywodraeth ac a dweud y gwir dw i ddim yn credu ein bod ni wedi cyflawni ryw lawer.
“Wrth i chi ddechrau edrych ar yr holl reolau rydych chi’n sylwi bod y rhan fwyaf mewn gwirionedd yn creu swyddi.”