Mae dynion yn treulio mwy o amser yn ymbincio yn y bore na merched, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw.

Mae dyn yn treulio 81 munud ar gyfartaledd bob diwrnod yn glanhau, lleithio’r croen, eillio, steilio gwallt a dewis dillad.

Mae dynes yn treulio 75 munud ar gyfartaledd yn mynd drwy’r un broses.

Yn ôl yr ymchwil gomisiynwyd gan Travelodge mae dynion yn treulio 23 munud at gyfartaledd yn y gawod bob bore, a merched yn treulio 22 munud yn y gawod.

Mae dynion hefyd yn cymryd 18 munud i eillio, tra bod merched yn cymryd 14 munud.

Ar ôl treulio 10 munud yn lleithio’r croen, mae dynion yn cymryd 13 munud i ddewis eu dillad. Mae merched yn treulio 9 munud yn lleithio’r croen a 10 yn dewis eu dillad.

Holodd yr ymchwilwyr 5,000 o oedolion dros 18 oed ym mis Hydref.