Rowan Williams
Mae 18 o esgobion Eglwys Lloegr wedi beirniadu diwygiadau Llywodraeth San Steffan i’r system fudd-daliadau.

Mewn llythyr at bapur newydd The Observer dywedodd yr esgobion eu bod nhw’n teimlo fod rhaid “dweud rhywbeth er lles y plant”.

Dywedodd yr esgobion fod Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ac Archesgob Efrog, John Sentamu, yn eu cefnogi nhw.

Fe fyddai plant a phobol ifanc yn wynebu “tlodi difrifol ac o bosib digartrefedd” o ganlyniad i’r diwygiadau, medden nhw.

Maen nhw wedi galw am gyfres o newidiadau i’r mesur a fydd yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi yfory.

Mae elusen The Children’s Society wedi rhybuddio y bydd 80,000 o blant yn ddigartref a miloedd yn rhagor yn byw mewn tlodi o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig.

Maen nhw’n annog cyfres o newidiadau i’r mesur, gan gynnwys cyfnod o oedi i deuluoedd sy’n cael eu hunain yn ddi-waith yn annisgwyl.

“Mae gan Eglwys Lloegr  ddyletswydd moesol i siarad o blaid y rheini sydd ddim yn gallu dadlau’r achos eu hunain,” meddai’r llythyr.

“O ganlyniad i hynny rydyn ni’n teimlo fod rhaid i ni ddadlau achos plant sy’n wynebu tlodi difrifol a digartrefedd, o ganlyniad i benderfyniadau neu amgylchiadau eu rhieni. Mae disgwyl iddyn nhw orfod dioddef yn hynod annheg.”