Russell Grant
Fe fydd sêr-ddewin o Faentwrog sy’n cystadlu ar raglen Strictly Come Dancing yn cael ei saethu allan o ganon ar y sioe heno.

Mae Russell Grant eisoes wedi difyrru’r gwylwyr y gyfres yma gyda sawl dawns dros ben llestri, gan gynnwys marchogaeth tarw ar y llawr dawnsio.

Mae’n debyg y bydd yn dechrau’n ddawns yn y canon cyn cael ei ‘saethu’ allan gan ei bartner Flavia Cacace.

Fe fydd yn teithio drwy’r awyr ar wifr cyn dawnsio i gan Reach For The Stars S Club 7.

Fe fydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu o Wembley yr wythnos yma, a bydd tua 6,500 o bobol yn y gynulleidfa.

Mae Cymro a Chymraes arall, y pêl-droediwr Robbie Savage a’r gyflwynwraig Alex Jones, hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen.