Richard Scanlon
Mae milwr o Gymru wedi marw yn dilyn ffrwydrad yn Afghanistan.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr Is-gorpral Richard Scanlon, 31, o Rymni, Gwent wedi marw ddydd Iau ar ôl i’w gerbyd daro bom yn Rhanbarth Helmand.

Cafodd y Lefftenant David Boyce, 25, o Swydd Hertford hefyd ei ladd yn yr un ffrwydrad.

Roedd Richard Scanlon wedi ymuno â’r fyddin yn 1998 ac wedi mynd i Afghanistan ar 18 Hydref.

Roedd hefyd wedi bod ym Mosnia yn 2011 ac Irac yn 2003 a 2005.

Gadawodd y fyddin yn 2006 cyn ail ymuno yn 2009 a chael ei ddyrchafu yn Is-gorporal ym mis Hydref 2010.

Mae ei fam Cherry, ei lys-dad Robert, ei dad Raymond a’i chwiorydd Lisa ac Emma wedi talu teyrnged iddo.

“Roedd Richard yn ddyn ifanc llawn hwyl oedd yn mwynhau bywyd i’r eithaf,” medden nhw.

“Roedd yn dipyn o gymeriad ac fe fydd y teulu a phawb oedd yn ei nabod yn gweld ei eisiau. Ni fydd yna unrhyw un arall fel Richard ni.”