Mae un o weinidogion y Llywodraeth yn San Steffan wedi galw am atal meddygon teulu rhag penderfynu a ddylai cleifion gael cymryd absenoldeb tymor hir o’r gwaith oherwydd salwch.

Dywedodd yr Arglwydd Freud fod yr arferiad yn “gwastraffu bywydau” a bod gormod o bobol yn cael eu cefnogi gan y wladwriaeth “yn ddiangen”.

Fe fydd adroddiad ar y mater sydd wedi ei gomisiynu gan y Glymblaid yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.

Mae disgwyl i’r adroddiad argymell fod aseswyr annibynnol yn penderfynu ar faterion yn ymwneud ag absenoldeb tymor hir oherwydd salwch yn hytrach na meddygon teulu.

Fe fydd hefyd yn galw am dorri trethu ar fusnesau sy’n cyflogi pobol sydd â salwch tymor hir.

Mae Llywodraeth San Steffan yn y broses o ddiwygio’r wladwriaeth les, ac fe fydd y newidiadau yn effeithio ar Gymru.

Fe fydd y broses yn cynnwys ail-asesu pawb sy’n hawlio budd-daliadau am nad yw eu hiechyd yn ddigon da i weithio.

“Mae’n bwysig fod meddygon teulu yn gallu penderfynu a ydi rhywun yn ddigon da i weithio, ond ar ôl tua mis mae angen asesiad annibynol er mwyn gweld beth sy’n bosib er mwyn annog pobol i fynd yn ôl i’r gwaith,” meddai’r Arglwydd Freud wrth raglen Today Radio 4.

“Os nad oes yna unrhyw gefnogaeth o gwbl fe fydd yn lawer o bobol yn mynd yn ddibynnol ar gefnogaeth y wladwriaeth, sy’n gwbl ddiangen mewn sawl achos.

“Dyw meddygon teulu ddim o reidrwydd yn arbenigwyr ar iechyd galwedigaethol. Mae angen asesu os ydi pobol yn gallu gwneud unrhyw swydd, nid nad ydyn nhw’n gallu gwneud un swydd benodol.

“Fe allai’r newidiadau arbed arian i gyflogwyr, y wladwriaeth. A rhoi hwb i’r economi, ond y peth pwysicaf yw y bydd llai o fywydau yn cael eu gwastraffu.”