Mae protestwyr gwrth-gyfalafiaeth sy’n gwersylla tu allan i Gadeirlan Sant Paul wedi dweud na fyddan nhw’n symud o’r safle er iddyn nhw gael gorchymyn swyddogol i adael am 6pm heno.

Ddoe, roedd Corfforaeth Dinas Llundain wedi rhoi gorchymyn i’r protestwyr i symud eu pebyll o gwmpas y gadeirlan erbyn  heno.

Dywedodd y gorfforaeth y byddai’n dechrau cymryd camau cyfreithiol yn yr Uchel Lys petai’r protestwyr yn gwrthod symud cyn hynny.

Ond mae’r protestwyr wedi dweud eu bod nhw’n barod i herio’r gorfforaeth ac apelio yn erbyn y gorchymyn i’w symud o’r safle.

Mae 200 o bebyll tu allan i’r gadeirlan ac mae nhw wedi bod yno ers 15 Hydref.  Dywed y protestwyr y byddan nhw’n cynnal rali tu allan i’r gadeirlan heno.

Fe benderfynodd y gorfforaeth  gymryd camau cyfreithiol ar ôl pythefnos o drafodaethau gyda’r protestwyr.

Roedd y gorfforaeth wedi dweud yn wreiddiol y gallai’r protestwyr aros tan y flwyddyn newydd.

Ond yn ôl cadeirydd polisi Corfforaeth Dinas Llundain, Stuart Fraser roedd y protestwyr wedi gwrthod eu cynnig i adael iddyn nhw aros tan y flwyddyn newydd a doedd dim dewis ganddyn nhw ond cymryd camau cyfreithiol.