Stephen Lawrence
Mae ffrind Stephen  Lawrence wedi bod yn rhoi tystiolaeth heddiw am funudau olaf y myfyriwr croenddu cyn iddo farw.

Dywedodd Duwayne Brooks, 37, yn yr Old Bailey bod Stephen wedi drysu ac yn gofyn iddo beth oedd yn bod.

Roedd Duwayne Brooks yn ei ddagrau wrth roi tystiolaeth, ac wedi penderfynu ymddangos er gwaetha’r ffaith fod ei dad wedi marw neithiwr.

Dywedodd: “Fe neidiodd i fyny ac am eiliad roeddwn i’n teimlo rhyddhad nad oedd dim byd wedi digwydd iddo a naethon ni redeg i fyny’r ffordd ac roedd o’n gofyn i mi beth oedd yn bod am ei fod o methu rhedeg yn iawn.

“Roedd gwaed yn llifo allan o’i wddf a drwy ei siaced.”

Roedd y ddau, oedd wedi bod yn ffrindiau ers yn 11 oed, wedi cael eu hamgylchynu gan grŵp o ddynion croenwyn yn Eltham, de ddwyrain Llundain ym mis Ebrill 1993.

Clywodd y llys bod Stephen Lawrence wedi cael ei drywanu a’i daro gyda darn o fetel gan yr ymosodwyr. Mae’n debyg bod y grŵp wedi gwneud sylwadau hiliol tuag at y ddau ffrind cyn ymosod arnyn nhw.

Ar ôl i Stephen Lawrence syrthio i’r llawr, fe geisiodd Duwayne Brooks ffonio am gymorth o flwch ffôn, ac yna drwy ofyn i bobl oedd yn cerdded heibio.

Roedd rhieni Stephen Lawrence, Doreen a Neville yn gwrando ar y dystiolaeth yn y llys, gyda’u mab Stuart.

Mae Gary Dobson, 36, a David Norris, 35, y ddau o dde Llundain, yn gwadu llofruddio Stephen Lawrence.