Mae milwr Prydeinig wedi cael ei ladd mewn ffrwydrad yn nhalaith Helmand yn Ne Affganistan heddiw.

Roedd y milwr yn gwasanaethu yn 2ail fataliwn The Rifles, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn ochr yn ochr â Bataliwn 1af Catrawd Swydd Efrog.

Roedd y milwr yn darparu system diogelwch ar gyfer ardal Mirmandab o Nahr-e Saraj pan gafodd ei ladd gan y ddyfais ffrwydrol.

Mae teulu’r milwr wedi’u hysbysu.

Mae nifer y milwyr sydd wedi marw yn Affganistan ers 2001 bellach yn 386.