Roedd y News of the World wedi annog ditectif preifat i “droi’n newyddiadurwr” ar ôl i olygydd brenhinol y papur gael ei arestio dros yr helynt hacio ffonau, clywodd yr ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw.

Mae’r ditectif preifat, Derek Webb, yn honni  fod y News of the World wedi ei gyflogi i gadw golwg ar bobol fel y Tywysogion William a Harry, a’r cyn Dwrnai Cyffredinol, yr Arglwydd Goldsmith, a rhieni’r actor Harry Potter, Daniel Radcliffe.

Mae’n honni fod aelod blaenllaw o staff y News of the World wedi dweud wrtho y byddai’n rhaid iddo “stopio bod yn dditectif preifat” ac ymuno ag Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yr NUJ, ar ôl i’r heddlu arestio’r newyddiadurwr Clive Goodman yn 2006.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUJ, Michelle Stanistreet, wedi cadarnhau bod Derek Webb wedi dod at yr undeb ar ôl i’r News of the World gau ym mis Gorffennaf, yn dilyn y ffieiddio cyhoeddus i’r darganfyddiad bod ffôn Milly Dowler wedi cael ei hacio.

Dywedodd Michelle Stanistreet wrth yr ymchwiliad fod “Mr Webb wedi cael ei gyflogi fel ditectif preifat gan y News of the World ac wedi gwneud gwaith gwyliadwriaeth i’r cwmni am nifer o flynyddoedd.

“Ond mae’n honni, yn sgil arestio Clive Goodman, ei fod wedi ei dynnu i un ochr gan aelod o staff yn y News of the World a bod yr aelod o staff wedi dweud wrtho fod yn rhaid iddo ‘beidio â bod yn dditectif preifat, ac i droi’n newyddiadurwr’.”

Mae’n ymddangos bod Derek Webb wedi ymuno â’r NUJ yn sgil y sgwrs honno.

Mae’r NUJ wedi beirniadu’r News of the World heddiw, gan ddweud fod y penderfyniad yn un “syfrdanol o sinigaidd”.