Mae David Cameron yn wynebu gwrthryfel yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw gan aelodau ei blaid ei hun, wrth iddyn nhw drafod pris cynyddol tanwydd.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gynnig o’r meinciau cefn yn galw ar weinidogion i ystyried “mecanwaith sefydlogi pris” er mwyn gweithredu law yn llaw â’r mecanwaith sefydlogi tanwydd teg a gyflwynwyd gan y Canghellor George Osborne yn y Gyllideb.

Mae mwy na 100 o Aelodau Seneddol o bob plaid – gan gynnwys 83 Ceidwadwr a phump aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol – wedi arwyddo’r cynnig nad yw’n rhan o bolisi’r Llywodraeth. Dydi Downing Street ddim wedi dweud eto a ydyn nhw wedi rhoi cyfarwyddiadau i ASau Ceidwadol i bleidleisio yn erbyn.

Ond mae’r Ceidwadwr o’r meinciau cefn, Rob Halfon, sydd wedi sicrhau’r ddadl ar ôl cyflwyno  e-ddeiseb ag arni dros 100,000 oenwau, yn dweud ei fod wedi cael rhybudd y bydd y blaid yn defnyddio’r sancsiynnau disgyblu llymaf posib gyda’r chwipiau.

Os nad yw chwipiau’r Ceidwadwyr yn camu lawr, fe allai’r bleidlais heddiw droi’n ergyd arall i hygrededd David Cameron, ar ôl y gwrthryfel fis diwethaf gan nifer o ASau ei blaid ei hun dros gynnal refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cefnogwyr y cynnig heddiw yn cynnwys y Ceidwadwr David Davies, sy’n Aelod Seneddol dros Sir Fynywy, a Graham Brady, sy’n gadeirydd ar bwyllgor meiniciau cefn y Ceidwadwyr, a nifer o’r ASau a etholwyd am y tro cyntaf y llynedd.

Ond heddiw, mae sibrydion bod y bygythiad o wrthryfel wedi ysgogi Downing Street i ystyried peidio codi 3c y litr o dreth ychwanegol ar danwydd fis Ionawr. Ond mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod cadarnhau hynny, gan ddweud ei fod yn fater i’r Canghellor.