Fe all taflegrau gael eu defnyddio i ddiogelu’r awyr uwchben Llundain yn ystod y Gemau Olympaidd, yn ôl yr ysgrifennydd amddiffyn Philip Hammond.

Roedd yn mynnu heddiw y byddai “pob mesur angenrheidiol” yn cael ei gymryd i sicrhau diogelwch yn ystod Gemau 2012.

Dywedodd Philip Hammond wrth Dŷ’r Cyffredin y byddai taflegrau yn cael eu defnyddio petae hynny’n cael ei argymell gan swyddogion milwrol.

Yn y cyfamser mae’r Unol Daleithiau yn bwriadu anfon 1,000 o’u staff diogelwch, gan gynnwys 500 o’r FBI, i edrych ar ôl cystadleuwyr a diplomyddion o’r UDA yn ystod y gemau.

Mae’n arwydd bod na anesmwythder ynglŷn â’r trefniadau diolgelwch. Yn ôl Y Guardian, mae swyddogion o’r Unol Daleithiau wedi “codi pryderon droeon” ynglŷn â diogelwch.

Mae taflegrau wedi cael eu defnyddio yn ystod y Gemau Olympiadd ers Atlanta ym 1996.

Mae’r Swyddfa Gartref yn mynnu bod pwyllgor rhyngwladol y Gemau Olympaidd yn hyderus iawn ynglŷn â’r trefniadau diogelwch ar gyfer y gemau.