Mae’r Gynghrair Cefn Gwlad wedi galw heddiw ar Awdurdodau Addysg Lleol i roi mwy o bwyslais ar darddiad y bwyd y maen nhw’n ei brynu i ysgolion.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y gynghrair heddiw, dydi dwy rhan o dair o Awdurdodau Addysg Prydain ddim yn gwybod o ba wlad y daeth y bwyd y maen nhw’n ei brynu ar gyfer plant ysgol.

Mae’r gynghrair, sydd wedi cael gafael ar y ffigyrau drwy gais rhyddid gwybodaeth, yn dweud fod hyn yn dystiolaeth nad yw awdurdodau addysg yn rhoi bwyd Prydeinig yn “ddigon uchel ar yr agenda.”

Mae’r ffigyrau wedi eu cyhoeddi mewn adroddiad newydd gan y Gynghrair Cefn Gwlad heddiw, o’r enw ‘Annog Ysgolion i Brynu Bwyd Prydeinig’.

Yn ôl yr adroddiad, dim ond 35% o Awdurdodau Addysg Lleol – sef 60 o 172 – oedd yn gwybod o ba wlad yr oedd eu bwyd wedi dod. O’r 60 Awdurdod Addysg hyn, roedd 61% o’r bwyd hynny yn dod o wledydd Prydain yn ystod 2008-09, a’r ffigwr hynny’n cynyddu i 62% erbyn 2009-10.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu fod y 60 Awdurdod Addysg hyn wedi gwario £73,356,057 ar fwyd Prydeinig yn 2008-09, a £70,499,229 yn 2009-10.

Yn ôl y Gynghrair Cefn Gwlad, mae’r ffigyrau yma’n dangos nad oes digon o waith yn cael ei wneud i sicrhau fod arian y trethdalwr yn cael ei wario ar brynu bwyd o safon sy’n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf YouGov, dywedodd 61% o bobol gwledydd Prydain eu bod yn credu y dylai ysgolion brynu cig a chynnyrch cig Prydeinig, hyd yn oed os yw’r cig hynny’n costio mwy.

Mae’r Gynghrair Cefn Gwlad nawr yn galw am gyflwyno polisi i Awdurdodau Addysg Lleol wrth brynu bwyd i ysgolion fyddai’n golygu bod canran o’r bwyd sy’n cael ei brynu yn gorfod dod o Brydain.

Mae’r polisi eisoes wedi ei fabwysiadu ar gyfer y gwasanaeth sifil ers ei gyflwyno yn gynharach eleni, ond does dim rhaid i ysgolion roi blaenoriaeth i fwyd o Brydain.

Yn ôl prif weithredwr y Gynghrair Cefn Gwlad, byddai pwyslais ar brynu bwyd gan gynhyrchwyr lleol yn “fuddsoddiad da mewn prydiau o safon uwch i ddisgyblion, a fyddai’n helpu cadw’r plant yn iach, yn gwella canolbwyntio, ac yn rhoi arian y trethdalwr yn ôl yn yr economi leol – yn ogystal â chefnogi ffermwyr Prydain.

“Mae’r Gynghrair Cefn Gwlad yn galw am ymestyn yr arweiniad ar safonau prynu bwyd i ysgolion, er mwyn sicrhau fod rhieni, disgyblion a threthdalwyr yn cael y ddêl orau posib gan yr Awdurdod Addysg Leol.”