Dai Greene
Mae Dai Greene o Felinfoel ger Llanelli ymysg yr athletwyr o Brydain sydd wedi croesawu’r newyddion y bydd Pencampwriaethau Athletau’r Byd yn cael eu cynnal yn Llundain yn 2017.

Mi roedd hi’n ras agos, ond fe lwyddodd Llundain i guro Doha, prifddinas Qatar, gan ennill yr hawl i gynnal y Bencampwriaethau.

Dywedodd Hugh Robertson, y Gweinidog yn Llywodraeth San Steffan sy’n gyfrifol am y gemau Olympaidd, “Dwi wrth fy modd. Mi wnaeth ein cais ddangos angerdd Prydain tuag at athletau a bydd yn etifedd gwych i Lundain 2012, gan y bydd y Pencampwriaethau yn cael eu cynnal yn y Stadiwm Olympaidd.”

Enillodd Dai Greene Fedal Aur yn y ras 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd eleni, a gafodd eu cynnal yn Korea.