Mae dogfen sydd wedi cael ei gweld gan bapur newydd y Daily Telegraph yn awgrymu y bydd 16,5000 o filwyr yn cael eu diswyddo erbyn Ebrill 2015, mwy na dwywaith y ffigwr a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Mi fyddai’r rhain yn cynnwys hyd at 2,500 o filwyr sydd wedi cael eu hanafu wrth ymladd dros eu gwlad.

Y gred yw bod y ddogfen wedi cael ei hanfon at benaethiaid milwrol yn Affganistan.

Ond mae llefarydd ar ran y Gweinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud yn bendant prynhawn yma fod y ffeithiau oddi fewn y ddogfen “ddim yn wir” ac yn “ffeithiol anghywir.”  Dywedodd nad oedd ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i newid y ffordd y maen nhw’n ymdrin â milwyr sydd wedi cael eu clwyfo, eu hanafu, neu sy’n dioddef o salwch.