Mae Aelodau Seneddol wedi galw ar y Llywodraeth i wella cysylltiadau trafnidiaeth i’r De Orllewin yn dilyn y ddamwain angheuol ar draffordd yr M5.

Cafodd saith o bobl eu lladd a 51 eu hanafu ar ôl i 37 o gerbydau daro yn erbyn eu gilydd.

Roedd y draffordd ar gau am ddeuddydd wrth i’r safle gael ei glirio.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening, a fu’n ymweld â’r safle yn Taunton, Gwlad yr Hâf ddydd Sul, wedi cytuno i gwrdd â Aelodau Seneddol o’r De Orllewin i drafod gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth.

Wrth siarad yn San Steffan, dywedodd Oliver Colvile, AS Plymouth Sutton, bod angen cysylltiadau gwell pan mae’r M5 ar gau.

Mae’r M5 yn un o ddau brif ffordd i’r De Orllewin. Y ffordd arall yw’r A303 ond mae problemau traffig wedi bod ar y ffordd.

Ar ôl i’r M5 gael ei chau cafodd y traffig ei ddargyfeirio i’r A38 drwy bentref Gogledd Petherton, gan olygu bod tagfeydd traffig am filltiroedd.

Cafodd cyffordd 24 a 25 ar yr M5 eu hailagor nos Sul yn dilyn y ddamwain. Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i achos y ddamwain ac yn apelio am dystion.