Mae’r  Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi gwadu bod cynllun peilot oedd wedi llacio’r rheolaeth ar fewnfudwyr i’r wlad mewn porthladdoedd yn y DU dros yr haf wedi peryglu diogelwch rheolaeth ffiniau.

Roedd Theresa May yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref.

Ddoe, roedd Theresa May wedi cyfaddef iddi ganiatau i’r Asiantaeth Ffiniau lacio’r rheolau.

Ond mae’n ymddangos bod swyddogion yn yr asiantaeth wedi mynd gam ymhellach gan roi’r gorau i’r broses o wirio pasborts a hynny heb gainatad gweinidogol, meddai Theresa May.

O ganlyniad fe fydd yn amhosib darogan faint o derfysgwyr honedig, troseddwyr a mewnfudwyr anghyfreithlon a ddaeth i wledydd Prydain yn y cyfnod yma.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog bod y cynllun peilot wedi awgrymu peidio â gwirio pasborts plant a rhoi mwy o sylw i’r rhai hynny a fyddai efallai yn fygythiad. Y bwriad y tu ôl i’r cynllun, meddai, oedd lleihau’r ciwiau mewn meysydd awyr.

Mae tri o staff yr asiantaeth gan gynnwys y pennaeth Brodie Clark, wedi cael eu gwahardd o’u swyddi ac fe fydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu “cosbi i sicrhau nad ydy swyddogion yn cymryd y fath risg gyda diogelwch ffiniau yn y dyfodol,” meddai Theresa May.