Clwb nos Lava Ignite
Mae dynes arall wedi marw ar ôl cael ei sathru mewn clwb nos fis diwethaf.

Bu farw Laurene-Danielle Jackson, myfyrwraig  19 oed o Wembley, Llundain yn yr ysbyty ddoe ar ôl cael ei sathru yn ystod rhuthr i adael clwb nos Lava Ignite yn Northampton ar Hydref 19.

Cafodd Nabila Nanfuka, myfyrwraig 22 oed o Neasden, yn ne Llundain hefyd ei lladd yn y digwyddiad.

Roedd Laurene-Danielle Jackson un o’r rhai gafodd ei hanafu yn y rhuthr ar ôl i’r clwb gyhoeddi bod bysys i gludo pobol nôl adre o’r clwb yn gadael.