Asiantaeth ffiniau
Mae’r adroddiad diweddaraf ar hynt Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig wedi dyfarnu bod y corff yn dal i fethu â chadw rheolaeth ar fewnfudwyr i’r wlad.

Daw’r adroddiad gan Aelodau Seneddol ddiwrnodau’n unig wedi i’r Asiantaeth gael ei gondemnio ar ôl iddi ddod yn amlwg fod eu mesurau diogelwch wedi cael eu llacio. Mae’r darganfyddiad wedi codi pryderon fod cannoedd ar filoedd o bobol wedi llwyddo i ddod i Brydain heb eu harchwilio’n iawn.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, mae’n ymddangos fod yr asiantaeth wedi methu â chadw llygad ar filoedd o geiswyr lloches yn y wlad, gyda’r sefyllfa wedi gwaethygu’n aruthrol dros y misoedd diwethaf.

‘Mynd ar goll’

Mae’r adolygiad diweddaraf hwn ar yr Asiantaeth Ffiniau gan Aelodau Seneddol wedi dod i’r casgliad fod  nifer yr achosion o geiswyr lloches neu fewnfudwyr sydd “wedi mynd ar goll” ym Mhrydain wedi treblu yn y tri mis diwethaf, o 40,500 ym mis Mawrth, i 124,000 ym mis Medi.

Mae gwleidyddion wedi cyhuddo’r Asiantaeth o ddefnyddio’r “Archif Rheoledig” – sy’n cadw achosion o’r math yma – fel lle i guddio achosion “lle mae’r asiantaeth wedi colli golwg ar yr achosion.”

Mae’r archif yn cynnwys achosion lle mae bron i 98,000 o geiswyr lloches wedi mynd ar goll dan oruchwyliadeth yr Asiantaeth Ffiniau, ac nad oes ganddyn nhw syniad os yw’r ceiswyr lloches ym Mhrydain ai peidio erbyn hyn.

‘Rheolau wedi eu llacio’

Mae’r adolygiad hefyd wedi arwain at feirniadau’r Asiantaeth am fethu ag esbonio pam fod 350 o garcharorion o dramor, a ddylai fod wedi cael eu hanfon adref, yn dal yn y wlad.

Mae’r Asiantaeth Ffiniau wedi bod yn faen tramgwydd i’r Llywodraeth ers tro. Ym mis Mehefin eleni fe feirniadwyd yr Asiantaeth am fethu ag atal dyn oedd wedi ei wahardd ym Mhrydain rhag dod i’r wlad.

Ond mae llefarydd ar ran yr Asiantaeth heddiw wedi mynnu nad oedd gan yr achos hynny ddim i’w wneud â’r darganfyddiad diweddar fod “rheolau wedi eu llacio ar y ffin dros yr haf.”