Mae mwy na 1,000 o swyddi yn y fantol heddiw ar ôl i gwmni Carphone Warehouse gyhoeddi eu bod yn cau eu siopau Best Buy yn y DU.

Mae’r cwmni wedi dechrau ymgynghori gyda’r 11 o siopau wrth i’r cwmni ganolbwyntio ar werthu mwy o nwyddau trydanol drwy eu siopau Carphone Warehouse.

Mae Carphone Warehouse yn gobeithio dod o hyd i swyddi newydd i’r rhan healeth o’r 1,100 o staff mewn llefydd eraill o fewn y sefydliad.

Cafodd y siopau Best Buy eu lansio yn 2009 gyda’r bwriad o gynnig nwyddau trydanol rhatach a gwell gwasanaeth i’r cwsmer. Ond mae nwyddau trydanol yn un o’r sectorau sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y wasgfa economiadd.