Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi beirniadu David Cameron yn hallt gan ddweud mai diogelu “1% o gymdeithas” y mae, sef y rhai “breintiedig, pwerus a chyfoethog”.

Yn ôl Ed Miliband, mae 99% o’r gymdeithas yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr gan y Prif Weinidog ac nad ydy “yn ei DNA” i edrych ar eu holau.

Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad gyda The Independent lle mae’n dadlau bod anghyndraddoldeb bellach yn bwnc llosg yn y byd gwleidyddol.