Dyw trenau ddim yn gallu defnyddio gorsaf reilffordd Euston yn Llundain am fod llinellau trydan ger Wembley wedi cael eu difrodi.
O’r herwydd mae Network Rail wedi atal pob taith i mewn ac allan o’r orsaf tan o leiaf 5.30 heno.
Gorsaf Euston sydd yn gwasanaethau gogledd Cymru yn ogystal a Birmingham, Manceinion a Glasgow.
Mae peirianwyr Network Rail wrthi’n gweithio i adfer y sefyllfa ac mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i weld beth sydd wedi achosi’r difrod.
Cwmniau Virgin Rail a London Midland sydd wedi dioddef waethaf ond mae tocynnau yn cael eu derbyn gan gwmniau mewn gorsafoedd eraill.