Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cadarnhau bod 7 o bobl wedi marw a 51 wedi cael eu hanafu wedi gwrthdrawiad rhwng 34 o geir a loriau ar yr M5 ger Taunton yng Ngwlad yr Haf gyda’r nos neithiwr (Gwener).

Digwyddodd y ddamwain ger cyffordd 25 o’r M5 tua’r gogledd tua 8.30 ac mae’r draffordd tua’r de a’r gogledd yn debygol o fod ar gau tan bore yfory.

Dyw’r gwasanaethau brys ddim yn sicr beth achosodd y ddamwain ond roedd yn glawio’n drwm iawn ac roedd yna niwl trwchus yn yr ardal ar y pryd.

Mae’r 17 sydd wedi eu hanafu yn ddifrifol yn cael eu trin yn Ysbyty Musgrove Park yn Taunton a 25 arall yn cael triniaeth yn Ysbyty Dosbarth Yeovil. Cafodd 9 driniaeth yn y fan a’r lle neithiwr.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Anthony Bangham o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod llygad-dystion wedi gweld “pelen fawr o dân” yn union wedi’r ddamwain.

Bu’r cerbydau yn llosgi am gyfnod helaeth hyd yn oed ar ôl i’r gwasanaethau brys gyrraedd, meddai. “Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i chwilio’r cerbydau gan fod rhai wedi eu llosgi yn lludw.”

Y ddamwain waethaf

Roedd yna arddangosfa tân gwyllt yng Nghlwb Rygbi Taunton gerllaw y draffordd ar y pryd ac roedd llawer yn credu mai oddi yno y ddaeth y ffrwydradau a’r golau.

Yn ôl Paul Slaven o Wasanaeth Tân Dyfnaint a Gwlad yr Hâf  roedd 20 o gerbydau ysgafn a 6 lori yn y ddamwain. “Dyma’r ddamwain traffig waethaf i unrhyw un ei gofio. Mae un neu ddau o gerbydau yn dal i fud-losgi,” meddai, gan ychwanegu y bydd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i glirio llwybrau’r draffordd.

Fe achosodd y ddamwain oedi o hyd at bum awr a hanner i rai gyrrwyr neithiwr ac mae’r heddlu yn dal i gynghori gyrrwyr i osgoi dwy ffordd yr M5 rhwng cyffordd 23 a 26 wrth i ymchwiliadau’r gwasanaethau brys barhau.

“Does dim dwywaith bod hyn yn ddigwyddiad enbyd,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Bangham. ”Mae’r gwasanaethau brys yn parhau yn y fan ac wedi gweithio’n galed i ryddhau’r rhai sydd wedi eu hanafu neu wedi ei carcharu yn eu cerbydau.”

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi rhif teliffon ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n pryderu am berthnasau neu gyfeillion ond yn annog pobl i geisio cysylltu efo nhw trwy ddulliau eraill gyntaf. Y rhif ydi 0800 092 0410