Mae tri o gricedwyr mwyaf amlwg y byd wedi cael eu hanfon i garchar heddiw am dwyllo yn ystod gemau.

Cafodd cyn gapten Pacistan Salman Butt, 27, ddedfryd o 30 mis a chafodd y bowliwr Mohammad Asif, 28, ddedfryd o 12 mis am daflu peli annilys mewn gêm brawf  rhwng Lloegr a Phacistan yn Lords y llynedd.

Cafodd y bowliwr Mohammad Amir, sy yn ei arddegau, ei garcharu am chwe mis. Mae’r asiant chwaraeon Mazhar Majeed, 36 oed, oedd y tu ôl i’r cynllun, yn  wynebu dwy flynedd ac wyth mis o dan glo.

Yn Llys y Goron Southwark yn Llundain dywedodd y barnwr Mr Ustus Cooke bod y pedwar dyn wedi pardduo enw da criced.

Mae disgwyl i Butt, Asif a Majeed fynd i garchar Wandsworth yn ne Llundain.

Fe fydd Mohammad Amir yn mynd i sefydliad troseddwyr ifanc yn Feltham, gorllewin Llundain. Ond mae ei fargyfreithiwr, Henry Blaxland QC yn ceisio gwneud cais i’w rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn apêl yn erbyn ei ddedfryd.