Mae News Corp wedi datgelu bod eu hincwm wedi gostwng yn sylweddol yn sgil yr helynt ynglŷn â hacio ffonau gan y News of the World.

Mae ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi gan y cwmni ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos bod incwm adran gyhoeddi’r cwmni wedi gostwng £42.7m o’i gymharu â llynedd.

Mae’r cwmni’n beio’r gostyngiad o 38% ar y penderfyniad i ddod â’r News of the World i ben ym mis Gorffennaf, a gostyngiad yn eu hincwm hysbysebu yn eu papurau newydd yn Awstralia.