Archesgob Caergaint
Mae Archesgob Caergaint wedi dweud ei fod yn cefnogi’r protestwyr gwrth-gyfalafiaeth sy’n gwersylla  tu allan i Gadeirlan Sant Paul ac wedi galw am greu treth newydd ar fanciau.

Dywedodd fod yna ddealltwriaeth ar lawr gwlad fod cymdeithas yn talu am “gamgymeriadau ac anghyfrifoldebau” y sefydliadau ariannol.

Mewn erthygl yn y Financial Times heddiw, mae Dr Rowan Williams wedi cefnogi’r protestwy, trwy ddweud y byddai treth newydd ar fanciau yn ateb rhywfaint ar eu galwadau.

Daw’r sylwadau ar ôl diwrnod o ddrama o gwmpas y Gadeirlan ddoe, wedi i aelodau o awdurdod y Gadeirlan gyhoeddi na fydden nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y protestwyr, sydd wedi bod yn gwersylla ar garreg y drws ers bron i bythefnos.

Mae Corfforaeth Dinas Llundain hefyd wedi dweud y bydd yn “oedi” cyn cymryd camau cyfreithiol i glirio’r gwersyll – ond mae disgwyl cyhoeddiad pellach ganddyn nhw yn ddiweddarach heddiw.

Yn ei erthygl, mae Dr Rowan Williams yn dweud bod y brotest gwrth-gyfalafiaeth yn “mynegi rhwystredigaeth dwfn ac eang gyda’r sefydliad ariannol”.

Dywed fod teimladau cryf ar lawr gwlad fod “cymdeithas gyfan yn talu am gamgymeriadau ac anghyfrifoldeb y bancwyr; o alwadau sydd ddim yn cael eu clywed; o ddiamynedd wrth weld busnesau’n ail-gydio yn ôl yr arfer – sydd i’w weld yn y taliadau bonws sy’n dal i gynyddu, a diffyg newid yn y banciau.”

Roedd disgwyl i Gorfforaeth Dinas Llundain, sy’n fath o awdurdod lleol ond gyda llawer o ddylanwadau busnes, gyflwyno llythyr i’r protestwyr ddoe yn eu rhybuddio mai dim ond 48 awr oed ganddyn nhw i glirio’r gwersyll, neu wynebu achos llys.

Ond wedi i’r Eglwys gyhoeddi ei fod wedi newid ei safbwynt, fe wnaeth y Gorfforaeth hefyd newid ei meddwl, a phenderfynu oedi am ychydig ddyddiau.

Mae’r protestwyr wedi gosod eu pebyll tu allan i Gadeirlan Sant Paul ers 15 Hydref, pan ddaeth pobol ar draws y byd  i strydoedd gwahanol ddinasoedd ar gyfer diwrnod o brotest yn erbyn cyfalafiaeth.