Fe fydd teuluoedd milwyr a laniodd yn Normandi ar D-Day yn 1944 yn cael help i goffáu’r achlysur o bell heddiw.

Yn wahanol i’r dathliadau mawr 75 mlwyddiant y llynedd, mae ymbelláu cymdeithasol a chyfyngiadau ar deithio yn golygu na fydd cyn-filwyr a’u teuluoedd yn gallu ymweld â’r mynwentydd eleni.

Yn lle hynny, mae garddwyr lleol y Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn cynnig gosod teyrngedau ar feddau ar eu rhan.

Mae’r teyrngedau’n dwyn y geiriau “Their Name Liveth For Evermore”, a gafodd eu dewis gan yr awdur Rudyard Kipling, ymgynghorydd llenyddol cyntaf y Comisiwn.

Meddai Xavier Puppinck, cyfarwyddwr mynwentydd y Gymanwlad yn Ffrainc:

“Er ei bod yn drist na allwn gynnal digwyddiadau torfol mawr yr haf yma, gallwn ddal i oedi a chofio. Gobeithio y bydd y weithred hon gan staff lleol y Comisiwn Beddau Rhyfel yn dangos y gallwn, gyda’n gilydd, gofio am byth y rheini a gafodd eu lladd yn y Rhyfeloedd Byd.”

Fe fydd seremonïau bach yn cael eu cynnal mewn amryw o fynwentydd, yn unol â rheoliadau coronafeirws Ffrainc.

Roedd y glaniadau yn Normandi ar 6 Mehefin 1944 yn gychwyn ar gyrch 80-diwrnod i ryddhau Ffrainc o afael y Natsïaid. Fe wnaeth dros 3 miliwn o filwyr gymryd rhan yn y cyrch a chafodd 250,000 ohonyn nhw eu lladd.