Yn ôl y sôn, mae’r DU yn wynebu beirniadaeth gan wledydd Ewrop ynghylch ei chynlluniau am gwarantîn ar ymwelwyr sy’n dod i mewn i’r wlad.

Bydd Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg a Sbaen yn gosod cyfyngiadau ar ymwelwyr o Brydain wrth iddynt ailagor ar ôl cyfyngiadau cloi oni bai fod y Deyrnas Unedig yn cael gwared ar ei chynlluniau am gwarantîn, neu fod ei chyfraddau haint coronafeirws yn gostwng, yn ôl y Daily Telegraph.

Yn y cyfamser, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn galw ar aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i gael gwared ar wiriadau ar y ffiniau o fewn y bloc erbyn diwedd Mehefin, meddai’r Comisiynydd Materion Cartref, Ylva Johansson, wrth Euronews.

Dywedodd Gweinidog Twristiaeth Ffrainc, Jean-Baptiste Lemoyne, y byddai ei wlad yn gosod cwarantîn 14 diwrnod ar ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig pe bai Prydain yn bwrw ymlaen â’i chynlluniau cwarantin ddydd Llun, yn ôl The Daily Telegraph, er iddo ychwanegu bod Ffrainc yn bwriadu agor ei ffiniau i genhedloedd eraill yr Undeb Ewropeaidd ar 15 Mehefin.

Dywedodd Gweinidog Tramor yr Almaen, Heiko Maas, y byddai’n “cynghori’n gryf” yn erbyn teithio i Brydain oherwydd y cwarantîn – wrth i’w wlad yntau godi ei chyfyngiadau teithio ar gyfer 30 o wledydd Ewropeaidd eraill o 15 Mehefin ymlaen.

Dyfynnwyd Gweinidog Tramor Gwlad Groeg, Haris Theoharis, yn dweud, tra bod cyfradd coronafeirws Prydain yn parhau’n gymharol uchel, y byddai teithwyr o’r rhan fwyaf o feysydd awyr y Deyrnas Unedig yn wynebu profion gorfodol ar gyfer Covid-19, a cwarantîn o saith diwrnod hyd yn oed os ydynt yn glir o’r firws.

A dywedodd Sbaen, wrth wadu gwneud rheolau “dant am ddant”, y byddai’r hawl i gael mynediad yn dibynnu’n rhannol ar “sefyllfa epidemiolegol” gwlad.

“Rydym mewn cysylltiad ag awdurdodau Prydain a gweithredwyr teithiau ynglŷn â dwy elfen sydd angen eu datrys,” meddai Gweinidog Tramor Sbaen, Reyes Maroto, yn y Telegraph.

“Un o’r rhain yw’r cwarantîn y mae Llywodraeth Prydain wedi ei gyhoeddi. Rydym yn gwybod bod pwysau gan y sector ac y gellid ei dynnu oddi ar yr agenda – ond yr hyn sy’n cyfyngu’n wirioneddol ar symud ar hyn o bryd yw’r cyfyngiadau’r Swyddfa Dramor.”

Mae Sbaen yn cynnig codi’r cyfyngiadau ar gyfer teithwyr o Bortiwgal a Ffrainc o 22 Mehefin – ond nid ar gyfer ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig na unrhyw wlad arall.

Mae agwedd y gwledydd Ewropeaidd yn debygol o greu stŵr ar y meinciau cefn ac yn y diwydiant ynghylch cwarantîn y Llywodraeth, a fydd, o ddydd Llun, yn gofyn i bawb sy’n cyrraedd Prydain o weddill y byd, gan gynnwys Prydeinwyr sy’n dychwelyd, ynysu eu hunain am 14 diwrnod.

Dywedodd Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, wrth y Telegraph: “Wrth i’r diwydiant ddechrau symud eto, rydym yn ei gau ac mae gwledydd eraill yn mynd i ymateb.”

Mae Llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd yn ceisio cydlynu sut a phryd i ailagor eu ffiniau, gyda gweinidogion materion cartref yr aelod-wladwriaethau i drafod y pwnc mewn cyfarfod ddydd Gwener.

“Rwy’n credu ein bod yn dod yn agos iawn at sefyllfa lle dylem godi’r holl gyfyngiadau ar ffiniau mewnol,” meddai Ms Johansson wrth Euronews.