Mae erlynwyr yn yr Almaen yn credu fod Madeleine McCann wedi marw, gyda throseddwr rhyw sydd yn y carchar yn y wlad yn cael ei amau o fod wedi ei llofruddio.

Yn ôl papur newydd Braunschweiger Zeitung roedd y dyn, sydd wedi ei enwi fel Christian Brueckner, wedi’i ddedfrydu i garchar am saith mlynedd am dreisio dynes 72 oed o America ym Mhortiwgal yn 2005.

Roedd Christian Brueckner yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal ar Fai 3, 2007 a derbyniodd alwad ffôn yn Praia da Luz oddeutu awr cyn i Madeleine McCann, tair oed, ddiflannu.

Dywed llefarydd ar ran swyddfa’r erlynydd cyhoeddus yn Braunschweig fod ymchwiliad yn mynd rhagddo mewn perthynas â Christian Brueckner “ar amheuaeth o lofruddio.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Rydym yn credu fod y ferch wedi marw.

“Rydym yn siarad am droseddwr rhyw sydd eisoes […] yn y carchar.”

Datgelodd Scotland Yard y “datblygiadau arwyddocaol” wrth lansio apêl ar y cyd â’r BKA a’r heddlu ym Mhortiwgal sy’n cynnwys gwobr o £20,000 am wybodaeth a fyddai’n arwain at euogfarn.

Kate a Gerry McCann “ddim am golli gobaith”

Diflannodd Madeleine McCann ychydig cyn ei phen-blwydd yn bedair oed, tra yr oedd ei rhieni mewn bwyty tapas gerllaw gyda ffrindiau.

Byddai wedi troi’n 17 oed fis diwethaf.

Mae ei rhieni, Kate a Gerry McCann wedi croesawu’r apêl ddiweddaraf.

“Wnawn ni ddim colli gobaith o ddarganfod Madeleine yn fyw, ond beth bynnag fydd y canlyniad, mae’n rhaid i ni gael gwybod er mwyn cael heddwch,” meddai datganiad gan y ddau.

Dywed Stryd Downing fod y datblygiadau diweddaraf yn ymddangos yn arwyddocaol, gan ddweud fod Rhif 10 yn meddwl am y teulu “sydd wedi gorfod dioddef gymaint.”