Mae troseddwr rhyw o’r Almaen yn cael ei amau o fod yn gysylltiedig gyda diflaniad Madeleine McCann, meddai’r heddlu.

Roedd y dyn, sydd heb gael ei enwi, yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal pan ddiflannodd y ferch fach ar Fai 3, 2007.

Dywedodd Christian Hoppe o heddlu’r Almaen (BKA) bod y dyn 43 oed wedi’i garcharu am drosedd rhyw a’i fod wedi’i gyhuddo cyn hynny o “gysylltiad rhywiol gyda merched.”

Yn ôl papur newydd Braunschweiger Zeitung roedd y dyn wedi’i ddedfrydu i garchar am saith mlynedd am dreisio dynes 72 oed o America ym Mhortiwgal yn 2005.

Dywedodd y papur newydd ei fod wedi ei gael yn euog o’r drosedd mewn llys yn Braunschweig ym mis Rhagfyr y llynedd.

Yn ôl heddlu’r Almaen nid ydyn nhw wedi diystyru cymhelliad rhywiol i’r drosedd honedig yn erbyn Madeleine McCann, sy’n cael ei drin fel achos llofruddiaeth gan y BKA.

Dywedodd Christian Hoppe y gallai’r dyn fod wedi torri mewn i’r fflat yng nghanolfan wyliau’r Ocean Club yn Praia da Luz – lle’r oedd Madeleine ar wyliau gyda’i rhieni Kate a Gerry McCann, a’i brawd a chwaer Sean ac Amelie – cyn ei chipio.

Maen nhw’n credu bod gan bobol eraill “wybodaeth gadarn” am ddiflaniad Madeleine McCann a lle cafodd ei chorff ei adael.

Mae Scotland Yard yn lansio apêl ar y cyd gyda’r BKA a’r heddlu ym Mhortiwgal gan gynnwys gwobr o £20,000 am wybodaeth a fyddai’n arwain at ddyfarnu’r person sy’n euog o’i diflaniad.

Fe ddiflannodd Madeleine McCann ychydig cyn ei phen-blwydd yn 4 oed ac fe fyddai wedi bod yn 17 oed fis diwethaf.