Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar i Lywodraeth Prydain roi’r gorau i werthu offer brawychol i’r Unol Daleithiau ac adolygu p’un a oedd y nwy dagrau neu offer i reoli’r dorf a gafodd eu defnyddio yn erbyn y protestwyr yn yr Unol Daleithiau wedi eu cynhyrchu yng ngwledydd Prydain.

Mae Emily Thornberry, llefarydd Masnach Ryngwladol yr wrthblaid, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifenydd Gwladol Masnach Rhyngwladol, Liz Truss gan ddadlau y byddai’n “warthus” pe bai Prydain yn darparu deunydd a oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr heddlu neu’r Gard Cenedlaethol yn ystod yr argyfwng sydd wedi deillio o farwolaeth George Floyd dan ddwylo’r heddlu.

“Pe bai hyn yn unrhyw arweinydd arall, mewn unrhyw wlad arall yn y byd, atal unrhyw allforion o’r fath yw’r lleiaf y gallem ei ddisgwyl gan Lywodraeth Prydain mewn ymateb i’w gweithredoedd, ac nid yw ein cynghrair hanesyddol â’r Unol Daleithiau yn rheswm i osgoi’r cyfrifoldeb hwnnw yn awr,” meddai.

Angen gwrthod trwyddedu

Yn ôl ei adroddiad diweddaraf, cafodd yr Adran Fasnach Ryngwladol drwydded eleni i allforio amrywiaeth o arfau brawychol ac offer rheoli i’r Unol Daleithiau, gan gynnwys dryllau gwrth-frawychol, nwy dagrau a thariannau terfysg.

Does dim modd rhoi gwerth ar yr offer rheoli torf sy’n cael eu hallforio, yn ôl ymgyrch yn erbyn y fasnach arfau.

Mae gwerthiant i’r Unol Daleithiau yn dod o dan drwyddedau agored lle nad oes angen nodi gwerth y nwyddau sy’n cael eu hallforio.

Dywed Llafur, o dan y drefn bresennol o reoli allforio arfau, fod rhaid i’r Llywodraeth beidio â rhoi trwyddedau ar gyfer allforio arfau a chyfarpar y gellid eu defnyddio ar gyfer gormes mewnol.

“Mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn haeddu gwybod sut mae’r arfau sy’n cael eu hallforio gan y wlad hon yn cael eu defnyddio ar draws y byd,” meddai Emily Thornberry.

“Ac mae’r cyhoedd Americanaidd yn haeddu’r hawl i brotestio’n heddychlon heb fygythiad o ormes treisgar.”