Mae penaethiaid yr SNP yn cael eu hannog i fanteisio ar gynhadledd rithwir i drafod ‘Cynllun B’ ar gyfer annibyniaeth i’r Alban.

Mae Angus MacNeil a Chris McEleny, dau aelod blaenllaw, am weld addewid ym maniffesto’r blaid ar gyfer etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf y byddai ennill mwyafrif o blaid annibyniaeth yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau yn San Steffan.

Roedden nhw wedi gobeithio trafod eu cynlluniau yng nghynhadledd y blaid ym mis Mehefin, sydd wedi’i chanslo yn sgil y coronafeirws.

Ond maen nhw bellach yn galw am gynnal pleidlais ymhlith aelodau.

Amlinellu’r dadleuon

Yn ôl Chris McEleny, dylid trafod dyfodol yr Alban ar adeg pan fo Albanwyr “yn gallu mynd am bicnic, chwarae golff neu fynd i fowlio yn yr awyr agored”.

Mae’r ddau yn galw am ddull gwahanol o gyflwyno’r dadleuon ar ôl i Boris Johnson a’i ragflaenydd Theresa May wrthod ceisiadau deddfwriaethol gan Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, i drosglwyddo grym o San Steffan i Holyrood ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth.

Cafodd y cais diweddaraf ei gyflwyno i Boris Johnson wedi’r etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr, ar ôl i’r SNP gynyddu nifer yr aelodau seneddol sydd ganddyn nhw yn San Steffan.

Ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod ym mis Ionawr, cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar Ionawr 31.

Bu’n rhaid rhoi’r trafodaethau ar annibyniaeth i’r naill ochr ym mis Mawrth wedyn, a hynny yn sgil y coronafeirws.

Cynnig

Mae Angus MacNeil a Chris McEleny eisiau gweld cynnig yn cael ei drafod sy’n awgrymu y dylid derbyn y byddai mwyafrif i’r SNP yn ddigon i gynnal refferendwm o’r newydd pe bai cais arall yn cael ei wrthod yn San Steffan.

“Allwn ni ddim fforddio gwastraffu mandad arall ar gyfer annibyniaeth drwy alluogi ‘feto Boris’ oherwydd does gyda ni ddim Cynllun B pan fydd e’n dweud ‘Na’ eto i gais am Adran 30,” meddai Angus MacNeil.

“Os yw’r Alban eisiau cael dewis ynghylch ein dyfodol ein hunain, yna mae angen strategaeth arnom i wireddu hynny.

“Dyna pam ei bod yn hanfodol fod aelodau’r SNP yn cael penderfynu beth mae maniffesto Senedd yr Alban yn dweud fydd y strategaeth honno.”

‘Penderfyniadau economaidd mwyaf ein hoes’

“Pan ddaw i benderfyniadau economaidd mwyaf ein hoes a’r hyn fyddan nhw ar ôl y coronafeirws, fydd gan bobol yr Alban ddim llais,” meddai Chris McEleny.

“Mae penderfyniadau hirdymor yn dod, ac yn dod yn gyflym.

“Pwy ydyn ni eisiau i’w gwneud nhw? Boris Johnson neu Lywodraeth yr Alban?

“Dyna’r dewis, dw i’n credu, y bydd pobol yr Alban eisiau ei wneud drostyn nhw eu hunain.”