Roedd marwolaeth y ceffyl December Second yn gysgod tros ddiwrnod cyntaf rasio ceffylau ers codi cyfyngiadau’r coronafeirws.

Yn Newcastle y cafodd y rasys cyntaf eu cynnal ers Mawrth 17.

 

Tra bod jocis a staff yn gwisgo mygydau tros eu hwynebau ac yn gorfod dilyn mesurau eraill fel cael profion tymheredd, roedd y ceffylau’n ôl i’r un hen drefn o redeg yn y rasys.

 

Bu farw December Second yn dilyn gwrthdrawiad â cheffyl arall, Financial Conduct, ar gyflymdra uchel.

 

Mae disgwyl i rasys gael eu cynnal yng Nghymru o Fehefin 15.