Roedd cyfreithwyr ar ran Llywodraeth Prydain wedi ceisio tynnu enw Dominic Cummings yn ôl o achos tribiwnlys cyn-weithiwr a gafodd ei diswyddo ganddo.

Mae prif ymgynghorydd y prif weinidog Boris Johnson wedi cael ei enwi fel un allai roi tystiolaeth yn achos Sonia Khan, sy’n honni iddi gael ei thrin yn annheg ac yn rhywiaethol wrth gael ei diswyddo o’r Swyddfa Gabinet y llynedd.

Roedd hi’n gweithio i’r cyn-Ganghellor Sajid Javid, ond cafodd ei diswyddo gan Dominic Cummings cyn cael ei thywys allan o Downing Street gan heddlu arfog, ac mae cyfreithwyr yn dweud bod y prif ymgynghorydd yn allweddol yn y digwyddiad.

Ond mae’n ymddangos bellach fod cyfreithwyr ar ran y llywodraeth wedi ceisio dadlau mai’r Swyddfa Gabinet, ac nid Dominic Cummings, ddylai roi tystiolaeth.

Yn ôl y Guardian, daeth cadarnhad y byddai’r Swyddfa Gabinet yn cael eu henwi fel rhai fydd yn rhoi tystiolaeth, ond fod enw Dominic Cummings hefyd wedi’i gofnodi.

Maen nhw’n dweud mai enwau adrannau ac nid enwau unigolion sydd fel arfer yn cael eu henwi mewn achosion tribiwnlys.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad gael ei gynnal ym mis Rhagfyr, ond dydy Llywodraeth Prydain ddim wedi gwneud sylw.