Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn honni y gallai’r BBC fod wedi arbed llawer mwy o arian na’r hyn wnaed yn sgil eu toriadau diweddar.

Yn ôl adroddiad y Swyddfa Archwiliadau Cenedlaethol (SAC), roedd y gorfforaeth wedi torri £395 miliwn oddi ar eu gwariant blynyddol erbyn diwedd 2010/11 fel rhan o’r cynllun arbedion, ac mae disgwyl i’r BBC arbed £164 miliwn arall erbyn 2013.

Roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi gosod targed arbedion o 3% i’r gorfforaeth ar ei hyd yn sgil cytuno ar ffi’r drwydded yn 2007, ond yn ôl adroddiad y Swyddfa Archwiliadau, “mae’n anodd dweud a oedd cynllun arbedion y gorfforaeth yn ddigon heriol.”

Mae’r ystadegau yn dangos fod mwyafrif adrannau’r BBC wedi tros-gyflawni wrth arbed arian – gyda’r arbedion erbyn 2011 £48 miliwn yn uwch na’r ffigwr ddisgwyliedig.

Roedd BBC Cymru yn un o’r adrannau oedd ar y blaen gyda’u harbedion, gan guro’r targed o £7.3 miliwn erbyn 2011 – gan lwyddo i arbed £7.7 miliwn.

Rhybudd i wthio’n bellach

Roedd pennaeth SAC wedi rhybuddio’r BBC y byddai’n rhaid iddyn nhw “gryfhau eu hagwedd” os ydyn nhw i gyrraedd gofynion yr arbedion sydd wedi dod yn sgil rhewi ffi’r drwydded yn 2010.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd y BBC gynllun arbedion a oedd yn cynnwys gwerthu adeiladau, ail-ddangos mwy o raglenni, a thorri 2,000 o swyddi erbyn 2016, fel rhan o’r cynllun ‘Delivering Quality First’. Mae’r cynllun yn gobeithio gwneud arbedion o £670 miliwn y flwyddyn erbyn 2016/17.

Yn ôl pennaeth SAC, Amyas Morse, “Mae rhaglen effeithlonrwydd y BBC yn weddol triw i’r cynllun os yw perfformiad wedi ei fesur yn nhermau cynulleidfa, gan fod niferoedd y gynulleidfa heb ddirywio.

“Ond, mae’n anodd dweud a yw’r targedau a osodwyd yn gwthio’n ddigon pell, a gall y BBC ddim a dweud os yw’r arbedion a wnaed wedi gwella effeithlonrwydd.

“Er mwyn ymdopi â setliad ffi’r drwydded yn 2010, mae’n rhaid i’r BBC gryfhau eu hagwedd tuag at dargedau arbedion a chreu diwylliant o herio cyson ar sut y mae gwasanaethau yn cael eu cyflawni.”

Mae’r adroddiad wedi darganfod fod y BBC wedi “llwyddo i gynnal lefel y perfformiad ar y cyfan,” tra’n gwneud arbedion, ond maen nhw wedi beirniadu tair adran o’r gorfforaeth o fod ar ôl gyda’u toriadau – gan gynnwys BBC North, sy’n rhan o’r cynllun i symud llawer o waith y BBC o Lundain i Salford.