Mae aelodau o awdurdod Cadeirlan Sant Paul yn Llundain wedi cytuno’n unfrydol i ohirio dwyn achos cyfreithiol yn erbyn protestwyr sy’n gwersylla tu allan i’r adeilad.

Dywedodd aelodau’r Gadeirlan eu bod nhw wedi cael cyfle i ail-asesu’r sefyllfa yn dilyn ymddiswyddiad y Deon, y Gwir Barchedig Graeme Knowles a’u bod wedi cael cyfarfod gydag Esgob Llundain, Dr Richard Chartres.

Dywedodd Dr Richard Chartres bod y penderfyniad heddiw yn golygu bod y “drysau bellach ar agor i drafod materion sy’n ymwneud, nid yn unig â’r rhai sy’n gwersylla o gwmpas y Gadeirlan, ond gyda miliynau o bobol eraill yn y wlad hon ac o gwmpas y byd.”

Cyfarfod gyda’r protestwyr

Roedd aelodau’r awdurdod wedi cwrdd â chynrychiolwyr y protestwyr gwrth-gyfalafiaeth bore ma mewn ymgais i “drafod yn uniongyrchol ac yn adeiladol gyda’r protestwyr am faterion moesol a moesegol”, meddai llefarydd ar ran y gadeirlan.

Mae’r esgob wedi gwahodd y banciwr Ken Costa, cyn-gadeirydd UBS Ewrop a chadeirydd Lazard International, i geisio arwain menter a fydd yn ceisio ail-gysylltu materion ariannol a moesegol.

Dywedodd y Gwir Barchedig Michael Colclough, sy’n aelod o awdurdod y gadeirlan:” Mae hyn wedi bod yn gyfnod anodd tu hwnt i’r gadeirlan ond mae’r awdurdod yn unfrydol yn eu dymuniad i drafod yn adeiladol gyda’r protestwyr a’r materion difrifol sydd wedi cael eu codi, heb fod yna fygythiad o gamau cyfreithiol  yn gwmwl uwch ein pennau ni.”

Er gwaetha hyn, mae Corfforaeth Dinas Llundain yn bwriadu parhau a’u cynlluniau i symud y protestwyr ac fe fyddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol os ydyn nhw’n gwrthod gadael y safle.

Mae disgwyl i’r gorfforaeth gyflwyno llythyr i’r protestwyr heddiw yn eu rhybuddio i adael y safle o fewn 48 awr neu wynebu achos llys i sicrhau eu bod yn gadael.

Mae’r protestwyr wedi bod yno ers pythefnos bellach gan orfodi’r gadeirlan i gau ei drysau am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd, oherwydd pryderon iechyd a diogelwch. Mae’r mater hefyd wedi achosi rhwyg ymhlith aelodau o awdurdod y Gadeirlan.