Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r actor Michael Angelis, sy’n adnabyddus fel llais diweddaraf Thomas the Tank.

Bu farw’r actor a storïwr yn sydyn yn yn gartref neithiwr (nos Sadwrn, Mai 30) yn 76 oed.

Fe oedd llais y trên ar gyfer 13 o gyfresi’r rhaglen deledu boblogaidd, gan olynu Ringo Starr yn 1991.

Yn ôl y digrifwr Matt Lucas, fe oedd “un o’r actorion teledu gorau dw i erioed wedi’u gweld”, ac “roedd ei waith gydag Alan Bleasdale yn anhygoel”.

Mae’r awdur teledu Simon Blackwell (The Thick Of It) yn dweud ei fod e’n “eithriadol o ddoniol”.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Michael Angelis ei eni yn Lerpwl.

Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus fel actor roedd September Song, GBH, The Liver Birds ac Auf Wiedersehen Pet.

Fe wnaeth e hefyd ymddangos mewn cyfresi fel Casualty, The Bill, Holby City a Heartbeat.

Fe ddechreuodd ei yrfa mewn cyfresi fel Z Cars, Thirty-Minute Theatre ac un bennod o Coronation Street, cyn mynd yn ei flaen i ymddangos yn Minder, World’s End a Boys From The Blackstuff.

Roedd e’n briod â’r actores Helen Worth rhwng 1991 a 2001, ac yna â Jennifer Khalastchi.