Mae gwyddonwyr sy’n cynghori Llywodraeth Prydain yn eu rhybuddio eu bod nhw’n llacio cyfyngiadau’r coronafeirws yn rhy fuan yn Lloegr.

O ddydd Llun (Mehefin 1), gall pobol yn Lloegr gyfarfod â ffrindiau ac aelodau’r teulu mewn grwpiau o hyd at chwech o bobol mewn parciau a gerddi ar yr amod eu bod nhw’n ymbellháu’n gymdeithasol wrth wneud hynny.

Fe fydd meithrinfeydd yn cael agor eto, ynghyd ag ysgolion cynradd i flynyddoedd 1 a 6, a bydd mwy o siopau, canolfannau manwerthu awyr agored a busnesau sy’n arddangos ceir yn cael agor eu drysau eto.

‘Risg sylweddol’

Dywed gwyddonwyr SAGE – y Grŵp Ymgynghori Gwyddonol ar Argyfyngau – fod gweinidogion yn cymryd risg sylweddol.

Yn eu plith mae’r Athro Peter Horby o Brifysgol Rhydychen, Syr Jeremy Farrar a’r Athro John Edmunds.

Dywedodd yr Athro Peter Horby wrth Radio 4 ei fod yn “cytuno” ei bod yn rhy gynnar i lacio’r cyfyngiadau.

“Wyddoch chi fod gyda ni 8,000 o achosion y dydd o hyd?

“Rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ei ostwng a lleihau’r niferoedd oherwydd yr ymbellháu cymdeithasol.”

Mae’n dweud ei bod hi’n bwysig nad yw’r llywodraeth “yn colli gafael eto”, ac y byddai’r system brofi ac olrhain yn rhan bwysig o hynny.

Ond fydd y cam hwnnw ddim ar gael yn lleol tan ddiwedd y mis nesaf, tra bod oedi cyn cyhoeddi ap olrhain newydd.

‘Disodli mesurau ymbarél’

Yn ôl yr Athro John Edmunds, wrth siarad â Sky News, mae Llywodraeth Prydain “yn ceisio disodli’r mesurau ymbarél hyn gyda dull â mwy o ffocws iddo, sef olrhain, lle, yn hytrach na bod pawb dan warchae, rydych chi’n rhoi’r rhai sy’n wynebu’r risgiau mwyaf dan warchae am ychydig wythnosau”.

Ond mae’n dweud nad oes sicrwydd eto fod y dull yn llwyddo “ond rydyn ni am wneud y newidiadau hyn beth bynnag”.

Yn ôl Syr Jeremy Farrar, mae angen bod y system olrhain “ar waith yn llwyr” cyn llacio’r cyfyngiadau.

“Mae Covid-19 yn lledu’n rhy gyflym i lacio’r gwarchae yn Lloegr,” meddai ar Twitter.

“Cytuno gyda John a chyngor gwyddonol clir.

“Rhaid bod profi, olrhain ac ynysu yn ei le, yn gweithio’n llawn, ac yn gallu ymdopi ag unrhyw gynnydd ar unwaith, yn ymateb yn lleol, a rhaid bod canlyniadau cyflym a chyfraddau heintio yn is. A bod yn rhai y gellir ymddiried ynddyn nhw.”

Rhybudd cyn y tywydd braf

Wrth i’r tywydd wella’n sylweddol dros y penwythnos, mae’r heddlu’n rhybuddio pobol yn Lloegr i gymryd rhagofalon cyn i’r cyfyngiadau gael eu llacio’r wythnos nesaf.

Mae Downing Street hefyd yn atgoffa pobol nad yw’r rheolau’n dod i rym tan ar ôl y penwythnos.

Yn yr Alban, gall pobol gyfarfod â phobol o un tŷ arall ar y tro yn yr awyr agored, ar yr amod nad yw mwy nag wyth o bobol yn bresennol, ond rhaid cadw hefyd at reolau pellter cymdeithasol.

Yng Nghymru, bydd pobol yn gallu cyfarfod â’i gilydd yn yr awyr agored ddydd Llun (Mehefin 1).

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd mwy o siopau’n cael agor a bydd priodasau bach yn gallu cael eu cynnal yn yr awyr agored o Fehefin 8 os yw’r gyfradd heintio’n aros yn gyson.

Mae mwy na 48,000 o bobol wedi marw erbyn hyn yng ngwledydd Prydain, gyda mwy na 270,000 o bobol wedi profi’n bositif am y feirws.