Mae yna ddiffyg “teimlad o frys” i wneud yn iawn am sgandal Windrush, yn ôl Aelod Seneddol Llafur amlwg.

Daw sylwadau Diane Abbott wedi iddi ddod i’r amlwg mai dim ond 60 o bobol sydd wedi derbyn iawndal hyd yma, sef 5% o geisiadau.

“Mae’r symiau yma, a nifer y bobol sydd wedi cael iawndal, yn pathetig,” meddai’r Aelod Seneddol Llafur.

“Pan dorrodd y sgandal, dywedodd gweinidogion y byddai hyn yn cael ei sortio mewn rhai wythnosau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach a dydyn nhw dal ddim wedi gwneud fyny am y drwg.

“Mae’r polisi […] yn golygu nad oes teimlad o frys ymhlith swyddogion, ac felly dyw’r rhai a ddioddefodd ddim yn ymddiried yn y Swyddfa Gartref”.

Yr arian

Mae’r Swyddfa Gartref, medden nhw, wedi talu £362,996 i 60 o bobol – gan gynnwys un taliad dros £100,000 – yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Iawndal Windrush.

Mae data yn dangos bod 1,275 o geisiadau wedi’u cyflwyno hyd at ddiwedd mis Mawrth, a bod nifer y ceisiadau wedi cynyddu pob tri mis. Mae £200m yng nghronfa’r iawndal – yn ôl amcangyfrifon.

Yn y gorffennol, mae pryderon wedi’u codi y gallai ambell un – sy’n gymwys am iawndal – farw cyn iddyn nhw dderbyn eu taliad, oni bai bod y Llywodraeth yn cyflymu’i hymdrech.

Sgandal Windrush

Yn 2018 cafodd gweinidogion eu beirniadu’n hallt am driniaeth ‘cenhedlaeth Windrush’ – wedi’u henwi ar ôl llong a ddaeth â phobol o’r Caribî i Brydain yn 1948.

Roedd dinasyddion y Gymanwlad – a ddaeth cyn 1973 – yn gymwys i aros ym Mhrydain, ond cafodd statws sawl un eu herio gan yr awdurdodau.

Yn ddiweddarach, daeth adolygiad annibynnol bod “methiannau gweithredol” yn y Swyddfa Gartref yn rhannol gyfrifol am y problemau a fu.