Ci tarw
Mae cwmni awyrennau wedi ei gael yn euog o achosi marwolaeth ci yn ystod taith yn nôl i Brydain o Cyprus.

Yn ôl Cyngor Sir Gorllewin Sussex cafodd swyddogion safonau masnach eu hanfon i faes awyr Gatwick ar ôl i Buster, ci tarw oedd  yn perthyn i aelod o’r lluoedd arfog oedd yn dychwelyd o’i ddyletswyddau yng Nghyprus, gael ei ddarganfod yn farw mewn caets wedi taith mewn awyren Thomas Cook Airlines.

Clywodd llys ynadon Sussex yn Haywards Heath bod bridiau fel cŵn tarw yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau anadlu pan mae nhw’n bryderus, a bod caets yr anifail yn rhy fach ac yn debygol o achosi i’r ci ddioddef yn ddi-anghenraid yn ystod y daith.

Roedd Thomas Cook wedi gwadu achosi dioddefaint di-anghenraid i Buster, ond cafwyd y cwmni yn euog o’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Cafodd y cwmni ddirwy o £6,500 a gorchymyn i dalu costau o £12,000 i wasanaeth safonau masnach y cyngor.

Mae llefarydd ar ran Thomas Cook wedi ymddiheuro wrth berchennog Buster am y gofid a achoswyd. Ychwanegodd eu bod yn siomedig iawn gyda dyfarniad y llys am eu bod yn “cymryd lles anifeiliaid o ddifrif ac yn gweithio gyda’n cyflenwyr i sicrhau eu bod yn cwrdd â’r gofynion angenrheidiol.”